Un aberth mwy nid oes

1,2,(3,4).
(Un Aberth rhinweddol)
  Un aberth mwy nid oes,
  Ond Ef fu ar y groes -
Iachawdwr rhad,
    drwy rîn ei waed,
  Fydd im' ryddhâd o'm loes:
Mae'n gadarn Iôr, a'i ras yn stôr,
  Fel môr o drysor drud;
Ac ato Ef, hyd orsedd nef,
Dyrchafaf lef, am noddfa gref, 
  I'm cadw rhag y llid.

  Mi deithia'r anial trwy
  Y rhinwedd sy'n ei glwy';
Fy nghadarn sail yw Adda'r ail -
  Gwnaf f'adail
      arno mwy:
Tragwyddol Graig yw Had y wraig
  Rhag drygau'r ddraig,
      a'i llid;
Mae'n Feddyg da,
    fe'm llwyr wellhâ
O'm dyfnaf bla,
    a'm cànu wna -
  Fy Nghyfaill goreu i gyd!

  Mae'm rhedfa îs y rhod,
  Yn nesu at y nôd:
I'm hymdaith hon,
    îs awyr gron,
  Mae diwedd bron a d'od:
Fy mhabell frau sydd yn llesgâu
  Ac yn gwanhau o hyd;
Ac yn y man daw*r amser pan
Bydd f'enaid gwan yn fywiol ran
  Mewn annherfynol fyd.

  O Dduw! rho im' dy hedd,
  A golwg ar dy wedd,
A maddeu 'n awr fy meiau mawr,
  Cyn 'r elwy' i lawr i'r bedd:
Ond im' gael hyn,
    nid ofna'i'r glyn,
  Na cholyn angeu 'n hwy;
Dof yn dy law i'r ochr draw,
Heb friw na braw, ryw ddydd a ddaw,
  Uwchlaw pob loes a chlwy.
1-2 priodolwyd i William Williams 1717-91
3-4: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1855

Tonau [6686.86686]:
Erfyniad (<1875)
Geirionydd (David Lewis 1828-1908)

gwelir:
  Mae'm rhedfa îs y rhod
  Mae'r ffynnon heb ei chau
  Mi deithia'r anial trwy
  O Dduw rho im' dy hedd

(One meritorious Sacrifice)
  There is no more sacrifice,
  But he who was on the cross -
A gracious Saviour,
    through the merit of his blood,
  That shall my freedom from my anguish:
He is a firm Lord, with his grace a store,
  Like a sea of precious treasure;
And unto him, up to the throne of heaven,
I will raise my cry, for a strong refuge,
  To keep me from the wrath.

  I will travel the desert through
  The virtue that is in his wound;
My firm foundation is the second Adam -
  I shall make my building
      upon him evermore:
An eternal Rock is the Seed of the woman
  From the evils of the dragon,
      and his wrath;
He is the good Physician,
    he will completely heal me
From my deepest plague,
    and bleach me he shall -
  My best Friend of all!

  My course under the vault of heaven is
  Approaching it's goal:
To this procession of mine,
    under the round sky,
  The end has almost come:
My fragile tent is growing feeble
  And weakening still;
And in a while shall come the time when
My weak soul shall be a lively part
  In an unending world.

  O God, give me thy peace!
  And a view upon thy countenance,
And forgive now my great faults,
  Before I go down to the grave:
If I but get this,
    I shall not fear the vale,
  Nor the the sting of death any more;
I shall come in thy hand to yonder side,
Without terror or horror, some day to come,
  Above all anguish and illness.
tr. 2025 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~